Ymateb i farwolaeth plentyn tair oed ar ôl tân carafán
Mae trigolion pentre Ffair-rhos yn Ngheredigion yn dweud eu bod wedi cael eu tristhau a'u bod mewn sioc wedi i fachgen tair oed farw ar ôl tân mewn carafán.
Cafodd y llu alwad am 05:35am fore Sul yn dweud fod tân mewn carafán yn pentref, sydd ger Pontrhydfendigaid.
Cafodd Shaun Harvey a bachgen pedair oed eu cludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar ôl cael "llosgiadau difrifol".
Mae Dr Ted Jones yn byw gerllaw, ac mae John Jones yn gynghorydd cymunedol.