Dysgu Cymraeg yn y gwaith yn 'ddyletswydd' i weithwyr gofal
Mae dau aelod o staff cartref gofal yng Ngwynedd wedi bod yn sôn wrth BBC Cymru Fyw am lwyddiant cynllun sy'n galluogi gweithwyr y cyngor i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.
Mae Chariya Davies a Seren Jones yn gweithio fel gofalwyr ym Mhlas Hafan yn Nefyn, ger Pwllheli, ac mae'r ddwy wedi bod yn dysgu Cymraeg er mwyn defnyddio'r iaith gyda phreswylwyr y cartref.
Dywedodd rheolwyr y cartref fod nifer o'r preswylwyr yn byw gyda chyflyrau fel dementia, a bod gallu cyfathrebu drwy eu hiaith gyntaf wedi bod yn gymorth mawr iddyn nhw.
Dechreuodd Chariya a Seren gwrs 'Cymraeg yn y Gweithle' ym mis Medi 2019 - cwrs sy'n cael ei redeg gan 'Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin' ac sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn ôl Chariya Davies, sy'n wreiddiol o Wlad Thai: "Dwi'n dysgu Cymraeg er mwyn medru cyfathrebu efo'r preswylwyr.
"Mae llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac felly dwi'n teimlo ei bod hi'n ddyletswydd arnon ni i ddysgu'r iaith.
"Mae hefyd yn gwella ein perthynas â nhw. 'Dan ni'n cael llawer o hwyl yn ymarfer ac yn dysgu geiriau newydd. Mae pawb yn gefnogol iawn ac yn ein helpu ni i ddysgu."
Ychwanegodd Seren Jones, sy'n dod o Ferthyr Tudful yn wreiddiol: "'Dan ni'n siarad yn Gymraeg efo staff eraill y cartref ac yn cael cyfle i ymarfer be' 'dan ni'n ei ddysgu bob wythnos."
Dywedodd Eluned Croydon, tiwtor y cwrs: "Mae Seren a Chariya yn dilyn cwrs lefel 'Canolradd' sy'n golygu eu bod yn gallu sgwrsio'n rhwydd am bynciau pob dydd.
"Maen nhw'n awyddus iawn i wella eu Cymraeg ac yn barod i ddefnyddio'u Cymraeg gyda'r preswylwyr a'r staff.
"Mae'n braf eu clywed yn cael hwyl, yn trafod ac yn hel atgofion yn Gymraeg gyda'r preswylwyr."