Ymarfer corff yn 'help' ar ôl torri clun

Mae Ysbyty Maelor yn Wrecsam wedi rhoi cyngor i bobl hŷn er mwyn lleihau'r risg o ddisgyn yn eu cartref.

Ymhlith yr argymhellion mae sicrhau bod golau da yn y tŷ a pheidio gadael unrhywbeth ar y grisiau.

Maen nhw hefyd yn annog pobl i wneud ymarfer corff ysgafn a chael diet cytbwys, iach.

Fe dorrodd Olwen Roberts, 75, ei chlun ond mae'n dweud bod ymarfer corff wedi bod yn help ofnadwy.

Mae'n mynd i sesiynau Heneiddio'n Dda sy'n cyfarfod yn wythnosol yn Y Bala.