Arallgyfeirio i gael 'sefydlogrwydd wedi Brexit'
Mae ymchwil newydd yn honni bod diwydiant yng Nghymru ar ei hôl hi o ran hybu incwm drwy arallgyfeirio - fel creu llety i dwristiaid neu gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir.
Gallai hyn, medd arbenigwyr, fod yn broblem o ystyried yr ansicrwydd ynghylch allforion cynnyrch o ffermydd Cymru yn y dyfodol wedi Brexit.
Mae Aled Lewis o Dregaron wedi gosod llosgydd pren ar ei fferm er mwyn creu trydan i'w werthu i'r grid.
Mae cynllun o'r fath, meddai, yn rhoi sicrwydd ariannol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.