Marwolaeth Cwm Taf: 'Rhaid i ni gael atebion'

Mae cwpl a gollodd blentyn wedi camgymeriadau yng ngwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn dweud eu bod eisiau ymchwiliad heddlu i'r hyn ddigwyddodd.

Bu farw merch Sarah a Jonathan Handy yn fuan wedi iddi gael ei geni wedi 26 wythnos.

Clywodd cwest bod camgymeriadau yn y gofal a gafodd Mrs Handy wedi cyfrannu at farwolaeth ei babi yn 2017.

Cafodd gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd eu rhoi dan fesurau arbennig ym mis Ebrill 2019.

Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro, ond mae Mrs Handy yn parhau i ddisgwyl am atebion, meddai.