'Boris Johnson yn wynebu talcen caled'

Ar y diwrnod y mae'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywed un arbenigwr sydd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r Undeb yn y gorffennol fod Boris Johnson yn wynebu talcen caled yn y dyddiau nesaf.

Bydd y gwaith nawr yn dechrau o ddifri ar sicrhau cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd - rhywbeth sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Prydain er mwyn i brynu a gwerthu allu parhau heb rwystrau.

Prif Ohebydd Newyddion9, Gwyn Loader, sydd wedi bod yn casglu'r ymateb.