'Dan ni isio aros mewn cymuned Gymreig'

Mae Nia Ferris yn dweud y gallai hi a'i phartner orfod symud o'u pentref ym Mhen Llŷn oherwydd rheolau cynllunio.

Fe gawson nhw ganiatâd, ynghyd â chwpl arall, i godi dau dŷ yn Llanengan ger Abersoch ar ôl gweld bod tai yn yr ardal yn rhy ddrud i'w prynu.

Ond wedi i Nia gael swydd newydd fel prifathrawes cafodd wybod bod ei chyflog bellach yn rhy uchel i fod yn gymwys am dŷ fforddiadwy.

Mae'n golygu y byddai hi a'i phartner dal yn cael adeiladu eu tŷ - ond fyddai Nia ei hun ddim yn cael byw yno.