Olivia Alkir: 'Roedd hi wirioneddol yn arbennig'

Mae dau lanc o Sir Ddinbych wedi eu carcharu am bum mlynedd yr un am achosi marwolaeth merch 17 oed trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y digwyddiad ar y B5105 rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ym mis Mehefin y llynedd.

Fe wnaeth Thomas Quick, 18 o Glawddnewydd, a bachgen 17 oed o Ddyffryn Clwyd - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - bledio'n euog yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Dywedodd Eluned Yaxley o Bwllglas, ger Rhuthun - un o ffrindiau gorau mam Olivia, Jo - bod y digwyddiad "yn dal mor fyw ag oedd o ar y pryd".

Roedd merch Ms Yaxley, Non, hefyd yn un o ffrindiau gorau Olivia.