Achub cerddwr oedd wedi disgyn 200 metr yn Eryri

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw allan mewn tywydd garw ddydd Sadwrn wedi i gerddwr yn Eryri ddioddef anafiadau difrifol.

Roedd y dyn 35 oed wedi disgyn 200 metr wrth gerdded ar Crib Goch, ac oherwydd y tywydd doedd dim modd defnyddio'r hofrennydd achub.

Cafodd y claf ei gario lawr ochr y mynydd gan wirfoddolwyr cyn cael eu cludo i'r ysbyty.

Roedd wedi torri ei goes, ei ysgwydd a'i arddwn.