Osian a Beca o Lambed - sêr athletau'r dyfodol?
Mae bachgen 14 oed o Lanbedr Pont Steffan yn dathlu dod yn bencampwr Prydain yn y naid uchel.
Roedd Osian Roberts, sy'n ddisgybl blwyddyn 9 yn Ysgol Bro Pedr, yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Athletau Prydain yn Sheffield pan enillodd y naid uchel i fechgyn dan 15 oed, gan neidio 1.80m.
Fe ddechreuodd diddordeb Osian yn y gamp pan oedd yn mynd i drac Clwb Athletau Harriers Caerfyrddin i wylio ei chwaer, Beca, yn ymarfer.
Mae Beca wedi cynrychioli Cymru eisoes, gan fod yn gapten ar dîm Cymdeithas Athletau Ysgolion Cymru yn ddiweddar a'i galw i hyfforddi gyda charfan Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.