Coronafeirws: Beth yw pryderon myfyrwyr?

Mae myfyrwyr yn galw am arweiniad wrth i ansicrwydd dyfu ynglŷn â pha effaith fydd coronafeirws yn ei gael ar eu hastudiaethau.

Does dim un achos o'r haint wedi'i gadarnhau mewn prifysgol yng Nghymru eto.

Ond mae nifer o brifysgolion y DU wedi canslo gwersi wyneb yn wyneb oherwydd pryderon am y feirws a phryderon y gallai ei ymlediad gael effaith andwyol ar astudiaethau myfyrwyr.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi galw eu holl fyfyrwyr tramor 'nôl ac wedi canslo unrhyw deithiau tramor am y tro.

Seran Bishop, Rhianedd Gwilym a Sali Moses sy'n egluro beth yw eu pryderon mwyaf nhw.