'Perygl i gleifion canser farw oherwydd coronafeirws'

Mae llawfeddyg blaenllaw wedi rhybuddio y gallai rhai cleifion canser farw am na fydd yna ofal dwys ar gael iddyn nhw oherwydd coronafeirws.

Dywedodd Gethin Williams, sy'n llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ei fod yn poeni'n arbennig am gleifion fydd angen llawdriniaethau brys.

Yn ôl Dr Williams, bydd meddygon yn gorfod gwneud dewisiadau anodd wrth drin cleifion sydd wedi eu heintio â Covid-19.

Mae'r dewisiadau hynny'n cynnwys penderfynu peidio cynnal llawdriniaethau ar rai cleifion rhag ofn iddyn nhw ddal y feirws, meddai.