'Mae pawb 'di anghofio am y plant bach'

Does dim cymhelliant i gadw drysau ar agor a thalu am gostau staff i ofalu am nifer fechan o blant yn ystod yr argyfwng coronafeirws, medd perchennog un feithrinfa.

Ar hyn o bryd, mae meithrynfeydd ond yn gofalu am blant gweithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd a phlant bregus fel rhan o'r ymateb i'r pandemig.

Ond mae rhai gweithwyr iechyd yn cael trafferth sicrhau'r gofal i'w plant wrth i feithrinfeydd gau.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gofal digonol ar gyfer plant 0-4 oed ar draws y wlad.

Dim ond 11 o'r 118 o'r plant sy'n cael gofal yng nghanolfan The Mill yn Sir Ddinbych fel arfer sy'n mynd yno ar hyn o bryd, ac mae'r safle'r cyflogi pump o weithwyr.

Mae'r perchennog Ffion Roberts yn bwriadu aros ar agor oherwydd "dyletswydd" i helpu gweithwyr y gwasanaeth iechyd, er nad yw hynny'n gwneud synnwyr yn ariannol i'r busnes.