Cartref nyrsio ym Mhontypridd yn 'brin o bopeth'

Mae rheolwr cartref nyrsio ym Mhontypridd yn dweud eu bod yn "brin o bopeth" a'i bod yn "anodd iawn, iawn ar y staff".

Dywedodd Gwenllian Hughes ei bod wedi ceisio prynu offer diogelwch personol i'w gweithwyr ar y we, ond ei bod "methu credu bod prisiau fel y maen nhw".

Ychwanegodd bod y mwyafrif o'r deunydd sydd ei angen ddim ar gael tan ddiwedd Mai ar y cynharaf.

Mae'r cartref wedi cael darpariaeth frys gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ond fydd hynny ond yn para wythnos.