'Angen i'r Eglwys yng Nghymru weddïo dros y Frenhiniaeth?'

A hithau'n ganrif ers ffurfio'r Eglwys yng Nghymru, dywed un cyn-ficer bod ei meddylfryd dal yn Brydeinig a Seisnig.

Mewn sylwadau ar raglen Bwrw Golwg, Radio Cymru, dywedodd Aled Jones Williams bod yr eglwys wedi colli pob cyfle i fagu a meithrin anian ac ysbryd Cymreig.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru bod yr Eglwys yn cefnogi bywyd yng Nghymru mewn ffordd real a diriaethol.