Profiadau'r rhyfel: 'Dwi'n ddiolchgar ein bod ni dal yma'

Wrth i seremonïau gael eu cynnal i nodi 75 mlynedd ers diwedd y brwydro yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd mae Cymru Fyw wedi bod yn cael hanes cyn-filwr o Lanuwchllyn.

Bellach mae Arthur Jones yn 98 oed, ond 19 oedd o pan ymunodd â'r Gwarchodlu Cymreig.

Bu'n gyrru ac yn trwsio tanciau yn ystod y rhyfel, ac fe aeth drosodd i wasanaethu yn Ffrainc yn yr wythnos yn dilyn D-Day.