'Angen symud ar y cyd â gwledydd eraill y DU'
Yn dilyn ei ddatganiad ar ymestyn y cyfyngiadau ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n bwysig "symud ar y cyd â gwledydd eraill y DU".
Roedd yna adroddiadau bod tensiynau rhwng y gwahanol lywodraethau wrth iddyn nhw wneud cyhoeddiad am y cyfyngiadau ar wahân.
Dywedodd Mr Drakeford fod y berthynas agos rhwng y llywodraethau yn parhau a'u bod yn rhannu gwybodaeth a syniadau er lles y cyhoedd.