Sialens bêl-droed dynes o Dal-y-bont yn taro deuddeg
Mae dynes o Geredigion wnaeth gicio pêl drwy do ei thŷ bellach yn rhan o hysbyseb teledu gorsaf Sky Sports.
Cafodd Mair Nutting o Dal-y-bont ei herio i wneud gan ei mab - ac mae ei hymdrech lwyddiannus wedi cael ei gwylio degau o filoedd o weithiau ar y we bellach.