Pryder am ymwelwyr yn codi 'tensiynau' ar Ynys Môn
Mae cynnydd yn nifer y ceir ar y ffyrdd, ac adroddiadau o ymwelwyr mewn tai haf, yn codi "tensiynau" ar yr ynys yn ôl un cynghorydd lleol.
Dywedodd Carwyn Jones fod yr heddlu eisoes wedi gorfod cynghori un teulu oedd wedi ymweld â'u hail gartref i adael yn dilyn pryderon diogelwch.