Twristiaeth Ceredigion mewn perygl o 'golli tymor cyfan'

Mae Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion, yn dweud bod peryg i rannau o'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion "golli tymor cyfan" yr haf oherwydd y pandemig coronafeirws.

Dywedodd y gallai rhai gweithgareddau hamdden fel golff a physgota ailddechrau maes o law, ond y byddai'n anodd gweld llefydd fel Llwybr yr Arfordir yn ailagor yn fuan gan y byddai'n anodd i bobl gadw pellter cymdeithasol.