Rheol pum milltir: 'Gwnewch e mewn cyd-destun lleol'

Bydd cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yn cael eu llacio rhywfaint yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

Bydd modd i bobl o ddau gartref gwahanol gwrdd â'i gilydd y tu allan, ond bydd yn rhaid i bobl aros dau fetr ar wahân ac aros yn eu hardal leol.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y newidiadau mewn cynhadledd i'r wasg amser cinio ddydd Gwener - gan esbonio sut y byddai'r rheol newydd am gadw at bum milltir o fewn ardal leol yn gweithio.