Pryderon perchnogion busnes am y rheol dau fetr
Mae perchnogion busnes yng Nghaernarfon yn rhybuddio na fydd rhai tafarndai yn gallu agor o gwbl os ydy'r rheol dau fetr yn parhau.
Un awgrym yng Nghaernarfon ydy atal y traffig a gosod mwy o seddi a byrddau tu allan ar hyd y maes i gyd i'w gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Elen Wyn sydd wedi bod o gwmpas y Maes yn holi - a chymysg oedd y farn.