'Dwi'n methu fy ffrindiau': Y plant fydd dal adref
Er bod llawer o blant eraill yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos hon, fydd Elan o Lanuwchllyn ddim yn eu plith.
Fel miloedd o blant ar draws Cymru sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol, mae 'na bryder am ei diogelwch hi a'r staff.
Oherwydd hynny mae ei mam Ceris wedi penderfynu mai ei chadw hi adref sydd orau - ac mae Elan yn gweld y manteision ac anfanteision i hynny.