Cofio Euro 2016: Cymru v Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd

Mae 1 Gorffennaf yn nodi pedair blynedd i'r diwrnod ers y gêm fythgofiadwy rhwng Cymru a Gwlad Belg yn Euro 2016.

Fe ddylai cefnogwyr pêl-droed Cymru fod yn mwynhau Euro 2020 ar hyn o bryd wrth gwrs, ond gan fod y bencampwriaeth wedi ei gohirio, efallai bod hi'n gyfle i hel atgofion.

Ffynhonnell y llun, PHILIPPE HUGUEN

Mae Lille ar y ffin rhwng Ffrainc a Gwlad Belg, a gyda Lille ond 34 munud ar y trên o Frwsel fe olygodd bod miloedd mwy o Felgiaid na Chymru yn y ddinas y diwrnod hwnnw. Dyma oedd yr olygfa yn y brif sgwar, La Grand Place, cyn y gêm.

Ffynhonnell y llun, EMMANUEL DUNAND

Roedd hi'n brynhawn Gwener ag awyrgylch arbennig iawn yn Lille, gyda chefnogwyr Cymru a Gwlad Belg yn cymsygu ac yn yfed ar y strydoedd.

Ffynhonnell y llun, Photonews

Ond roedd y 'Red Devils' yn uchel eu cloch, gyda'r rhan fwya' yn ffyddiog o fuddugoliaeth - ac felly hefyd oedd hi gyda'r bwcis.

Ffynhonnell y llun, PHILIPPE HUGUEN

Gêm bêl-droed gydag awyrgylch carnifal, ac oedd, mi roedd y cwrw yn llifo cyn y gêm.

Ffynhonnell y llun, PAUL ELLIS

Maes y frwydr: Stade Pierre-Mauroy yn ardal Villeneuve-d'Ascq o ddinas Lille. Agorwyd y stadiwm yn 2012 gyda lle i oeddeutu 50,000 o dorf.

Ffynhonnell y llun, DENIS CHARLET

Roedd carfan Gwlad Belg yn cael ei ystyried fel un hynod dalentog, gydag Eden Hazard o Chelsea, Kevin De Bruyne o Man City a Romelu Lukaku o Everton ymysg yr enwau mwyaf.

Ffynhonnell y llun, DENIS CHARLET

Ond fe roedd gan Gymru hefyd chwaraewyr o safon, fel Aaron Ramsey a Joe Allen, heb anghofio wrth gwrs seren Real Madrid, Gareth Bale.

Ffynhonnell y llun, EMMANUEL DUNAND

Ymweliad Breninhol: roedd Brenin Philippe o Wlad Belg yn y dorf ar gyfer y gêm, gyda'i ferch, y Dywysoges Elisabeth.

Ffynhonnell y llun, Matthias Hangst

Un o edmygwyr chwaraewr Athletico Madrid a Gwlad Belg, Yannick Carrasco, ac hefyd arwydd yn awgrymu bod Cymru angen achubiaeth.

Ffynhonnell y llun, Alex Grimm - UEFA

Yr anthem yn cael ei chanu cyn un o'r gemau mwyaf yn hanes pêl-droed Cymru.

Ffynhonnell y llun, Michael Regan

Roedd hi'n ddechreuad siomedig i Gymru gyda Radja Nainggolan o glwb Roma yn rhoi Gwlad Belg ar y blaen gyda ergyd wych wedi 13 munud o chwarae.

Ffynhonnell y llun, Mike Hewitt

Ond fe ddaeth Cymru'n nôl gyda'r capten Ashley Williams yn penio i'r rhwyd o gic gornel wedi 31 munud.

Ffynhonnell y llun, Mike Hewitt

Ac yna daeth un o'r digwyddiadau mwyaf eiconig yn hanes pêl-droed Cymru; troad Hal Robson-Kanu yn y cwrt cosbi a gôl i roi Cymru ar y blaen.

Ffynhonnell y llun, Clive Rose

Doedd dim all golwr Chelsea, Thibaut Courtois, ei wneud i achub ei dîm wrth i Gymru gyfan ddathlu.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK

Y golygfeydd yn ardal y cefnogwyr yng Nghaerdydd wedi gôl Hal Robson-Kanu.

Ffynhonnell y llun, Chris Brunskill Ltd

I goroni noson fythgofiadwy fe sgoriodd yr eilydd Sam Vokes gyda pheniad gwych gydag ond pum munud o'r gêm yn weddill.

Ffynhonnell y llun, Stu Forster

Sam Vokes, Gareth Bale, Joe Allen a Chris Gunter yn dathlu.

Ffynhonnell y llun, Mike Hewitt

Y cefnogwyr yn gorfoleddu wedi'r chwiban olaf, buddugoliaeth 3-1 i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Anadolu Agency

Y garfan yn dathlu ar noson arbennig fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer.

Hefyd o ddiddordeb: