'Nes i jyst llefain, methu credu be' oedd wedi digwydd'

Mae cyflwynydd o Rydaman wedi bod yn sôn am ei brofiadau o hiliaeth wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin drafod pecyn o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae Ameer Davies-Rana yn wyneb adnabyddus ar wasanaeth Hansh S4C.

Mewn cyfweliad â'r rhaglen Newyddion, mae'n dweud iddo ddioddef hiliaeth yn rheolaidd yn yr ysgol, ar y cae rygbi ac ar strydoedd Caerfyrddin.