Ffonio adrannau brys 'yn newid all aros yn y dyfodol'
Bellach mae disgwyl i bobl ffonio o flaen llaw cyn mynd i adran achosion brys mwyaf Cymru o dan system newydd i ymdopi yng nghyfnod y pandemig Covid-19.
Ac yn ôl Non Smith, un nyrs sy'n gweithio yno, fe allai'r drefn newydd aros hyd yn oed pan fydd yr argyfwng ar ben.