'Ffantastig' cael gweld preswylwyr cartref gofal eto
Yn sgil llacio'r rheolau yn ymwneud â Covid-19 mae cartrefi gofal sydd dan reolaeth y cyngor sir nawr yn caniatáu i gyfarfodydd gyda pherthnasau ddigwydd wyneb yn wyneb.
Un o'r cyntaf i fanteisio oedd Clare Hale, aeth i weld ei nain mewn cartref yn Felinfoel ger Llanelli ddydd Iau.
Roedd y profiad yn "werth y byd" ac yn "amhrisiadwy", meddai Clare.