Addoldai Cymru'n ailagor - ond sut maen nhw'n paratoi?

Ddydd Sul, am y tro cyntaf mewn bron i bedair mis, fe wnaeth addoldai ar draws Cymru allu ailagor ar gyfer addoliad cyhoeddus.

Dan ganllawiau Llywodraeth Cymru bydd yn rhaid sicrhau bod pobl yn gallu cadw dau fetr ar wahân, a bod darpariaeth digonol ar gyfer iechyd a diogelwch.

Ond mae rhai addoldai wedi penderfynu peidio ailagor yn syth er mwyn paratoi yn well.