'Gweithio, cysgu, a chodi - s'dim byd i edrych mlân i'

Fel arfer mae'n binacl i'r calendr amaethyddol, ond gallai colli'r Sioe Fawr eleni gael effaith nid yn unig ar yr economi ond ar les ac iechyd y gymuned wledig.

Dyna rybudd arweinwyr cymunedol wrth i unigrwydd ddod yn fwyfwy amlwg ar ôl misoedd o hunan ynysu i rai yn ystod y cyfnod clo.

Adroddiad Iola Wyn i Newyddion S4C.