Lluniau gorau'r wythnos o Eisteddfod Caerdydd 2018
- Cyhoeddwyd
Eisteddfod arbrofol oedd eisteddfod y brifddinas yn 2018 gyda mynediad am ddim i'r 'maes' prysur yn ardal Bae Caerdydd yn golygu bod nifer o ymwelwyr newydd wedi dod iddi.
Fe olygodd golled ariannol i'r Eisteddfod ond rhoddodd flas ar fath gwahanol o ŵyl a nifer wedi mwynhau'r teimlad newydd i'r digwyddiad. Ac roedd yr haul yn help - heb sôn am ymweliad enillydd y Tour de France, Geraint Tomos, i gloi'r Brifwyl.