'Dan ni wedi colli un cydweithiwr yn barod i Covid-19'
Mae Fiona Lambrecht a'i chydweithwyr yn y gwasanaeth ambiwlans wedi bod ar reng flaen y frwydr yn erbyn Covid-19, wrth iddyn nhw ddelio â galwadau ac addasu eu ffordd o weithio.
Ar yr un pryd, maen nhw'n gorfod cymryd camau ychwanegol i amddiffyn eu hunain rhag yr haint, gan gynnwys gydag offer diogelwch personol.
Ac maen nhw wedi cael help llaw hefyd, gan gynnwys o gyfeiriad y fyddin - ac ambell cyn-aelod o staff oedd eisoes wedi ymddeol.