Cyfyngiadau ar angladdau: 'Ma' fe jyst yn annheg'

Dim ond 12 o bobl oedd yn cael bod yn angladd tad-cu Ffion Evans yn ddiweddar oherwydd cyfyngiadau Covid-19, rhywbeth mae hi'n dweud sydd bellach yn "annheg".

Gyda'r rheolau'n cael eu llacio mewn sawl maes bellach, mae'n dweud bod angen i'r llywodraeth ystyried pa mor bwysig yw hi bod mwy o deulu a ffrindiau'n gallu mynychu gwasanaethau.

Ychwanegodd bod y teulu'n dal i feddwl sut allai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn pe nai bai'r pandemig coronafeirws wedi taro.

Fe wnaeth hynny olygu nad oedd ei thaid, Bernard, yn gallu cael y driniaeth ganser oedd ei angen arno, ac erbyn iddo gael cynnig eto roedd ei iechyd wedi dirywio.