'Roedden nhw'n lwcus iawn ein bod ni i gyd yna'

Roedd Arwel Jones yn un o'r bobl oedd yn y "man iawn ar yr amser iawn" i achub tri o bobl aeth i drafferthion yn y môr yn Aberdyfi ddydd Sul.

Llwyddodd Mr Jones, sydd yn wirfoddolwr gyda gwasanaeth y bad achub, i helpu dau lanc yn eu harddegau, a dyn yn ei 20au.