Fydd teithiau natur yn dychwelyd yn sgil llacio cyfyngiadau?
Mae'r hawl i gyfarfod gyda hyd at 30 o bobl yn yr awyr agored yn golygu bod modd ailgydio mewn rhai gweithgareddau am y tro cyntaf ers misoedd.
Dydy Cymdeithas Edward Llwyd heb gynnal un o'u teithiau natur ers mis Mawrth.
Ond er yr awydd i gerdded unwaith eto, mae'r gymdeithas yn dweud nad yw ar frys, a'u blaenoriaeth ydy sicrhau diogelwch ei haelodau.