Pryder am effaith Covid-19 ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg

Mae sefyllfa Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd yn fregus iawn yn ôl y prif weithredwr, Guto Brychan.

Does gan glybiau nos ddim syniad pryd fydd modd ailagor, a gyda gigs a gwyliau di-ri wedi gorfod cael eu canslo, mae 'na rybudd y gall y sîn gerddoriaeth Gymraeg golli cenhedlaeth o bobl ifanc.