Myfyrwraig wedi colli dros £1,000 drwy beidio gweithio

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi gweld cynnydd o hyd at 190% yn nifer y myfyrwyr sy'n gwneud cais am nawdd argyfwng.

Rheswm mawr am hyn yw bod nifer ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i waith dros yr haf er mwyn ariannu eu cyrsiau.

Astudio i fod yn athrawes yng Nghaerfyrddin mae Dana Coaley sy'n 21 oed.

Roedd hi wedi bod yn dibynnu ar waith mewn gwersyll plant dros yr haf lle cafodd ei chyflogi'r llynedd.