Ansicrwydd TGAU 'wedi rhoi cymaint o straen arnon ni'
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanlyniadau TGAU eleni o gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.
Daw y cynnydd o ganlyniad penderfyniad y llywodraeth i ddefnyddio asesiadau athrawon fel sail i'r graddau, yn hytrach nag asesiadau allanol.
Dywed Cymwysterau Cymru fod bron i dri chwarter y graddau eleni rhwng A* ag C, gyda chwarter y canlyniadau yn raddau A* a A - sef cynnydd o18.4% ers y llynedd.
Er y canlyniadau, cymysg oedd yr ymateb yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ac Ysgol y Creuddyn yn Llandudno i'r penderfyniad i fynd ar sail barn athrawon yn unig.