Tân trên disel yn symud pobl o'u cartrefi
Bu'n rhaid i gartrefi gael eu gwagio ar ôl i drên disel mawr fynd ar dân yn ne Cymru nos Fercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod pobl bellach wedi cael dychwelyd i'w cartrefi yn dilyn y digwyddiad ar y rheilffordd yn Llangennech, Sir Gâr.
Y gred yw bod y trên yn cario olew a nwy o Aberdaugleddau, ond fe wnaeth dau berson oedd ar y trên allu gadael yn ddiogel.
Roedd y fflamau i'w gweld am filltiroedd o amgylch y digwyddiad, ac fe gafodd pobl o fewn 800m eu symud o'u tai.