Bwyta Allan i Helpu Allan: Y farn yng Nghaernarfon

Mae llawer o fwytai a chwsmeriaid wedi manteisio ar y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan yn ystod mis Awst, gyda gostyngiad o hanner pris ar fwyd a diod rhwng dydd Llun a dydd Mercher.

Ond sut oedd pobl yng Nghaernarfon yn teimlo am y cynnig? Oes rhai sydd wedi gweld mwy o fudd nag eraill?