PMDD: 'Bob dim yn brifo' am tua wythnos bob mis
Mae actores a chantores adnabyddus wedi trafod y boen o fyw gyda chyflwr sy'n ei heffeithio'n feddyliol ac yn gorfforol yn fisol.
Dywed Lisa Jên Brown ei bod eisiau "camu allan o groen ei hun" ar brydiau, gymaint ydy'r straen o fyw gyda PMDD.
Mae'r cyflwr, sy'n cael ei alw'n "anhwylder disfforig difrifol", yn effeithio tua un o bob 20 o ferched, ac yn gallu arwain at or-bryder ac iselder dwys cyn y mislif.