Mark Drakeford am roi 'un cyfle olaf' i Boris Johnson

Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud ei fod am roi "un cyfle olaf" i Lywodraeth y DU wahardd pobl rhag teithio o ardaloedd yn Lloegr sydd â chyfraddau uchel o coronafeirws cyn cymryd unrhyw gamau pellach ei hun.

Dywedodd Mark Drakeford nos Lun y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio'i phwerau ei hun i weithredu os nad yw Boris Johnson yn gweithredu.

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Mr Drakeford fod ganddo dystiolaeth i brofi bod pobl sy'n teithio o'r ardaloedd hyn yn achosi cynnydd yn yr achosion yng Nghymru.

"Dwi ddim cweit yn siŵr mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn deall... mae pwerau 'da ni yma yng Nghymru," meddai.