'Llawer heb fod mewn lle poblog ers mis Mawrth'

Gyda Chymru ar drothwy ail gyfnod clo cenedlaethol yng Nghymru, mae yna gyngor i bobl "gadw i fynd" a dilyn patrwm dyddiol i ymdopi ag unigrwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Pan gafodd y cyfyngiadau Covid-19 eu llacio'n raddol dros fisoedd yr haf, fe wnaeth rhai pobl fanteisio ar y rhyddid i ddechrau ailafael yn eu bywydau bob dydd arferol.

Ond mae eraill wedi bod yn fwy pwyllog, gan gynnwys Jean Lewis, sy'n gynghorydd sir yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'n dweud ei bod yn ffyddiog y bydd yr ysbryd cymunedol yr un mor gryf yn yr wythnosau nesaf ag yn ystod y cyfnod clo cyntaf - ond bydd y tywydd ddim cystal y tro hwn.