'Sioc' cyn-bennaeth dros gynllun Canolfan Bedwyr

Mae sylfaenydd a chyn-bennaeth Canolfan Bedwyr wedi mynegi "syndod a sioc" ynghylch cynnig Prifysgol Bangor i'w hailstrwythuro.

Ers ei sefydlu yn 1996, mae'r ganolfan wedi darparu gwasanaethau, ymchwil a thechnoleg ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys y rhaglenni cyfrifiadurol Cysgair a Cysill.

Mae'n gyfrifol am gryfhau darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg a gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, a datblygu'r defnydd o'r iaith o fewn y brifysgol ac yn allanol.

Ddechrau Hydref fe gadarnhaodd Prifysgol Bangor bod cynnig ar y gweill i "drosglwyddo swyddogaethau o'r ganolfan i'r brifysgol" a hynny er mwyn "ehangu capasiti ymchwil a datblygu ymhellach".

Ond fe fyddai hynny, yn ôl Dr Cen Williams, gyfystyr â "chwalu'r sefydliad yn llwyr", ac mae'n apelio ar y brifysgol i ailystyried.