Capel Siloh yn Chwilog yn derbyn côd post am y tro cyntaf

Mae capel yng Ngwynedd wedi cael cydnabyddiaeth ei fod yn bodoli yn swyddogol - a hynny 151 mlynedd ar ôl ei sefydlu.

Fel sawl capel ac eglwys arall, doedd gan Capel Siloh yn Chwilog, ger Pwllheli, ddim côd post swyddogol.

Daeth y broblem i'r amlwg pan geisiodd y capel annibynwyr osod llinell ffôn a chysylltiad rhyngrwyd er mwyn gallu darlledu oedfaon a chyfarfodydd yn ystod cyfyngiadau Covid-19.

Pan gysyllton nhw gyda chwmni BT, fe gawson nhw wybod nad oedd eu cyfeiriad yn bodoli ar y system ac y byddai'n rhaid cael côd post swyddogol cyn gwneud unrhyw archeb.

Y Parchedig Aled Davies fu'n egluro'r broses o geisio sicrhau côd post am y tro cyntaf.