Gêm dyngedfennol yn 'dangos pa mor bell 'da ni wedi dod'
Mae tîm pêl-droed Cymru'n gorffen eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn yr un modd ag y gwnaethon nhw ddechrau - gyda gêm yn erbyn y Ffindir.
Mae'r garfan yn gwybod y byddai buddugoliaeth neu gêm gyfartal yn golygu eu bod yn ennill Grŵp 4 cynghrair B, ac yn eu dyrchafu i gynghrair A ar gyfer tymor 2021-22.
Os ddigwyddith hynny mae'n golygu y bydd Cymru yn chwarae yn erbyn elît Ewrop y flwyddyn nesaf: Ffrainc, Portiwgal, Gwlad Belg, Sbaen a'r Almaen yn eu plith.
Byddai ennill y grŵp hefyd yn newyddion da i ymdrechion Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2022, gyda gemau ail-gyfle'n cael eu cynnig i enillwyr grŵp Cynghrair y Cenhedloedd.
Dywedodd golwr Cymru, Owain Fôn Williams fod bod o fewn gafael i gynghrair A yn "dangos pa mor bell 'da ni wedi dod yn y blynyddoedd diwethaf".