'Fel doctor gofal dwys rwy'n pryderu am fis Ionawr'

Mae Dr Bethan Gibson yn gweithio yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a dywedodd bod pryderon am effaith rheolau'r Nadolig.

"Mae'n newyddion da i deuluoedd fel eu bod nhw yn gallu dathlu'r Nadolig ond fel doctor sydd wedi bod yn gweithio yn yr uned gofal dwys rwy'n pryderu nawr am fis Ionawr.

"Gyda mwy o deuluoedd yn gallu dod at ei gilydd rwy'n teimlo ein bod ni wedi taflu'r hyn yr ydyn ni wedi llwyddo i wneud dros y misoedd diwethaf a ninnau ond wythnosau i ffwrdd o gael vaccine.

"Rydyn ni gyd yn pryderu nawr am fis Ionawr ac y bydd yn surge arall a thrydedd ton."