Harding eisiau bod yn rhan o'r 'ailadeiladu' i Gymru

Ni fydd chwaraewyr profiadol Cymru'n ymddeol os na fydd y tîm yn llwyddo i gyrraedd Euro 2022, meddai Natasha Harding.

Dywedodd Harding ei bod wedi cael sgwrs a thrafod a oedd hi'n amser i roi'r gorau iddi a rhoi cyfle i'r merched ifanc.

Ond dywedodd ei bod yn "bwysig i ni fod yn rhan o ailadeiladu" ac os ydy hi'n dal i chwarae'n dda i'w chlwb, yna mae hi eisiau chwarae dros Gymru hefyd.

Bydd Cymru'n herio Belarws nos Fawrth, a bydd angen iddyn nhw gael gwell canlyniad na Gogledd Iwerddon os ydyn nhw am gyrraedd y gemau ail-gyfle. Bydd Gogledd Iwerddon gartref yn erbyn Ynysoedd Y Ffaro.