Ymateb Ian Gwyn Hughes i grŵp Cymru yng Nghwpan y Byd

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 nos Lun.

Fe fydd Cymru yng Ngrŵp E ynghyd â Gwlad Belg, Y Weriniaeth Siec, Belarws ac Estonia.

Fe fydd y gemau rhagbrofol yn dechrau cael eu chwarae ym mis Mawrth 2021, ond nid yw'r amserlen derfynol wedi'i threfnu hyd yma.

Dyma oedd ymateb Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru i'r Grŵp.