Yr addurniadau Nadolig yn Abersoch er cof am fab

Ers 14 mlynedd mae teulu o Abersoch wedi bod yn codi hwyliau eu ffrindiau a'u cymdogion drwy addurno'u tŷ ag addurniadau mwy lliwgar a llachar bob Nadolig.

Ond mae'r weithred yn un sy'n golygu rhywbeth personol iddyn nhw hefyd - dechreuodd y traddodiad fel ffordd o gofio eu mab Terry, fu farw yn 16 oed mewn damwain car, ac oedd wastad yn mwynhau'r adeg hon o'r flwyddyn.

Eleni am y tro cyntaf fe wnaeth y teulu ystyried peidio addurno, ond ar ôl trafod fe benderfynon nhw bod heriau'r flwyddyn ddiwethaf yn golygu bod angen rhoi gwên ar wynebau pobl yn fwy nag erioed.

"'Naethon ni ddechrau efo 'chydig o bethau bach, oedd o'n un oedd wrth ei fodd efo 'Dolig," meddai brawd Terry, Aaron Jones-Evans. "Ond ers hynna mae o 'di tyfu'n lot mwy!"

Yn ogystal â cheisio codi hwyliau yn ystod y pandemig, mae'r ymdrech eleni hefyd yn codi arian ar gyfer dau o ysgolion yr ardal - Ysgol Abersoch ac Ysgol Sarn Bach.

"Mae ymateb pobl 'di bod yn wych," ychwanegodd Aaron. "Does 'na neb sy'n mynd heibio sydd ddim yn deud diolch."

I'w chwaer Chloe Lee Jones, mae cael ei hadnabod fel un o deulu y 'tŷ efo'r goleuadau i gyd' yn dod yn ail natur erbyn hyn.

"Dwi'n reit prowd o'r gwaith mae Dad a pawb wedi 'neud," meddai.

"Mae pobl dal yn deud ar Facebook am Terry ac mae'n neis - mae'n rhywbeth gwahanol, dim jyst goleuadau Nadolig."