Colli defaid i ymosodiadau cŵn yn 'hunllefus'

*RHYBUDD: Gall un o'r lluniau yn y fideo beri pryder*

Yn ôl undeb yr NFU, mae cynnydd mewn ymosodiadau cŵn ar ddefaid yn "achosi gorbryder" i ffermwyr mewn cyfnod lle maen nhw eisoes dan straen.

Mae'r aelod seneddol ar gyfer Ceredigion yn galw am newid y fformiwla ariannu fel bod "heddluoedd gwledig yn cael grant penodedig".

Mae Wyn Evans yn ffermio yn Tynygraig ger Aberystwyth.

Mae'n dweud fod ymosodiadau cŵn ar ddefaid yn digwydd yn llawer rhy aml.